This consultation has now ended. The consultation period was 16 March - 11 June 2010
Mae Llywodraeth y DU yn paratoi Rhestr Betrus newydd o safleoedd naturiol, diwylliannol a chymysg i’w henwebu ar gyfer Rhestr Treftadaeth y Byd UNESCO. Cyflwynir Rhestr Betrus newydd y DU i UNESCO yn 2011 gyda golwg ar fwrw ymlaen gydag enwebiadau o’r rhestr newydd o 2012.
Mae statws Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO’n cydnabod arwyddocâd gwirioneddol fyd-eang lleoedd o’r fath. Mae’n fraint ac anrhydedd a gall ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd. Am fod rhaid i bob Safle Treftadaeth y Byd fod o bwysigrwydd gwirioneddol fyd-eang, mae Rhestr Treftadaeth y Byd o reidrwydd yn ddethol iawn ac ni fydd llawer o leoedd o arwyddocâd cenedlaethol, neu hyd yn oed ryngwladol, yn cyrraedd y rhestr.
Mae statws o’r fath hefyd yn dod â chyfrifoldebau o ran diogelu, gwarchod a throsglwyddo Gwerth Byd-eang Neilltuol y safle i genedlaethau’r dyfodol. Mae paratoi enwebiad a rheoli safleoedd yn y tymor hir yn gostus. Ni ddylid tanbrisio’r ymrwymiadau hyn a dylid eu hystyried yn ofalus cyn i unrhyw gais gael ei wneud.
Gwahoddir ceisiadau ar y ffurflen gais gan Awdurdodau Lleol ac eraill ledled y DU, Tiriogaethau Tramor a Thiriogaethau Dibynnol y Goron, ac fe’u hasesir gan banel o arbenigwyr annibynnol a benodir gan y Llywodraeth. Cyflwynir Rhestr i Weinidogion i'w chymeradwyo cyn iddi fynd ymlaen i UNESCO yn 2011.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Mehefin 2010.
brig
Mae’r pecyn cais yn cynnwys taflenni gwybodaeth gefndirol ar Dreftadaeth y Byd a’i chyd-destun gyda’r ffurflen gais a thaflenni cyfarwyddyd ar ei llenwi, a sut i geisio cyfarwyddyd cyffredinol pellach. Mae Taflen wybodaeth 10 yn rhestr o ffynonellau gwybodaeth bellach a gwefannau defnyddiol. Anogir ymgeiswyr yn gryf i ddarllen y pecyn cyfan yn ofalus cyn llenwi’r ffurflen gais.
Dylid lawrlwytho’r ffurflen cyn ei llenwi. Dylech gyfeirio hefyd at y Nodyn Cyfarwyddyd ar lenwi;r ffurflen gais
Ffurflenni cais
brig
Taflenni gwybodaeth
Mae’r taflenni gwybodaeth yn cynnwys yr adrannau a ganlyn:
Rhyddid gwybodaeth
Gellir cyhoeddi atebion, oni bai eich bod yn gofyn inni beidio. Yn ogystal o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gall pob gwybodaeth mewn ymatebion, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, fod yn agored i'w chyhoeddi neu i'w datgelu. Os bydd unrhyw ohebydd yn gofyn am gyfrinachedd ni ellir gwarantu hyn, ac ni fydd ond yn bosibl os ystyrir ei bod yn briodol o dan y ddeddfwriaeth.
Mae’r dogfennau hyn ar gael ar-lein mewn fformat Adobe Acrobat (.pdf)
These documents are available online in Adobe Acrobat (.pdf) format.